Dyddiad: 7 Rhagfyr 2022
Pwnc: Grwpiau Trawsbleidiol a Hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad
Annwyl Manon
Diolch am eich llythyr dyddiedig 23 Tachwedd, yn rhoi diweddariad ar y ddau bwnc a godwyd yn flaenorol. Trafododd y Pwyllgor gynnwys y llythyr hwn yn ei gyfarfod diweddar ar 28 Tachwedd.
Yn gyntaf, roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi eich eglurhad ynghylch Grwpiau Trawsbleidiol, ac yn cytuno â'ch awgrym i rannu'r cyngor hwn â'r Bwrdd Taliadau.
Mewn perthynas â'ch ymateb ynghylch hyfforddiant i Aelodau ar y Cod Ymddygiad, gan gyfleu trafodaethau'r Grŵp Cyswllt Gwleidyddol, roedd y Pwyllgor yn falch bod ei argymhelliad wedi'i dderbyn a'i weithredu. Hoffem ail-bwysleisio y credwn y dylai hon fod yn rhaglen hyfforddi sy’n ailddigwydd drwy gyfnod y Senedd, yn hytrach na sesiwn untro.
Yn gywir
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.